Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3, Senedd
a fideogynhadledd ar Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 9 Mai 2024
Amser:
10.30 -
12.35
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/14677
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS |
|
Tystion: |
Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Chris Vinestock, Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Gwella, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Katrin Shaw, Prif Gynghorydd Cyfreithiol a Chyfarwyddwr Ymchwiliadau, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru |
|
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Cerian Jones (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar yr Adolygiad o weithrediadau, prosesau ac ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gan Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; Chris Vinestock, Prif Swyddog Gweithredu a Chyfarwyddwr Gwella; a Katrin Shaw, Prif Gynghorydd Cyfreithiol a Chyfarwyddwr Ymchwiliadau.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn gofyn iddi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt yr adolygiad cyn toriad yr haf.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y papur eglurhaol, a'r ddogfen ddrafft ar yr amodau a’r telerau; a chytunwyd ar y camau gweithredu a oedd wedi’u cynnwys yn y papur eglurhaol.